Cyn lledu lleni'r nef, Na ffurfio llwythau'r llawr, Cyn gosod ser i droi Yn yr eangder mawr, Na llunio un creadur byw, O dragwyddoldeb y mae Duw. Cyn canu'n beraidd fwyn O'r ser boreol draw, Na chael o Gabriel bêr Y delyn yn ei law, Dedwyddwch perffaith, hedd didrai, Oedd Ffynnon cariad yn fwynhau. Mor fyr yw oesoedd maith Gerbron tragwyddol Fôd! Ei oes heb fesur sydd, Diderfyn yw ei glod: Mil o flynyddoedd maith, neu ddydd, Yn debyg yn ei olwg sydd. Pan gryno seiliau'r byd, Pan syrthio'r ser yn llu, Y lleuad wen yn waed, A'r haul fel sachlen ddû, Yr un fydd Ceidwad dynolryw, Diddechreu a diddiwedd yw.
Benjamin Francis 1734-99
Tonau [666688]: |
Before spreading heaven's curtain, Or forming the tribes of the earth, Before setting the stars to course In the great expanse, Or fashioning a single living creature, From eternity is God. Before the sweet, gentle singing Of the distant northern stars, Or sweet Gabriel got The harp in his hand, Perfect happiness, un-ebbing peace, Was the Fount of love enjoying. How short are the vast ages Before the eternal Being! His age is without measure, Boundless is his praise: A thousand long years, or a day, Are similar in his sight. When the foundations of the earth shake, When the stars fall as a host, The white moon become blood, And the sun like black sacking, The same will be the Keeper of humankind, Without beginning and endless he is. tr. 2009 Richard B Gillion |
|